Hysbysiad preifatrwydd: sut rydym yn defnyddio’ch data
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Mehefin 2025
Crëwyd y ffurflen hon gan ddefnyddio GOV.UK Forms. Mae GOV.UK Forms yn gynnyrch a ddarperir gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) sy’n rhan o’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg. Mae’n caniatáu i dimau llywodraeth y DU greu ffurflenni ar-lein i gasglu gwybodaeth gan bobl a sefydliadau.
Y sefydliad a greodd y ffurflen ar-lein hon gan ddefnyddio GOV.UK Forms yw rheolydd data y data personol y maent yn ei gasglu gan ddefnyddio’r ffurflen, a’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, trwy GDS, yw’r prosesydd data. Rhaid i’r rheolydd data ddweud wrthych am yr hyn maent yn ei wneud gyda’ch data personol - darllenwch wybodaeth preifatrwydd y rheolydd data ar gyfer y ffurflen hon.
Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg hefyd yn casglu rhywfaint o ddata fel rheolydd data. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio pa ddata personol y mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg yn ei gasglu a’i brosesu fel rheolydd data trwy ffurflenni a greir gyda GOV.UK Forms.
Darllenwch cofnod yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg yn y Gofrestr Gyhoeddus Diogelu Data i gael rhagor o wybodaeth.
Data rydyn ni’n ei gasglu gennych a beth rydym yn ei wneud ag ef
Pan fyddwch yn defnyddio’r ffurflen hon, mae eich dyfais yn anfon gwybodaeth fel:
- Cyfeiriad IP
- porwr gwe a rhif fersiwn
- gosodiadau amser ac iaith
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i:
- roi’r wybodaeth a’r tudalennau gwe rydych yn gofyn amdanynt
- monitro’r defnydd o’r wefan ar gyfer bygythiadau diogelwch
- monitro perfformiad y wefan i nodi aneffeithlonrwydd a gwallau JavaScript
Rydym yn casglu’r wybodaeth hon mewn logiau system. Mae’r logiau hyn yn cael eu cadw yn Amazon Web Services yn Iwerddon.
Rydym yn symud rhywfaint o’r wybodaeth hon i’n teclynau monitro diogelwch a rhwydwaith yn Iwerddon a’r UDA, sy’n cael eu darparu gan gwmnïau sy’n gweithredu fel ein proseswyr data.
Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynhyrchu adroddiadau dienw am wasanaeth GOV.UK Forms. Mae hyn yn ein helpu i ddeall ble y gallwn wneud gwelliannau. Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda rheolydd data y ffurflen.
Os byddwch yn anfon adborth atom am y ffurflen hon, byddwn yn casglu eich cyfeiriad e-bost ac unrhyw wybodaeth bersonol arall rydych yn dewis ei chynnwys yn eich e-bost.
Efallai y byddwn yn rhannu eich data gyda rheolwyr data lle mae’n briodol. Er enghraifft, os ydych yn darparu adborth sy’n ymwneud â’u swyddogaeth neu os ydych yn gwneud cais diogelu data.
Y sail gyfreithiol dros brosesu’r data hwn yw ei fod yn angenrheidiol:
- i gyflawni tasg er budd y cyhoedd
- wrth arfer ein swyddogaethau fel adran y llywodraeth
Ni fyddwn yn:
- gwerthu neu rentu eich data i drydydd partïon
- rhannu eich data gyda thrydydd partïon at ddibenion marchnata
Byddwn yn rhannu eich data os yw’n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith – er enghraifft, trwy orchymyn llys, neu i atal twyll neu droseddau eraill.
Cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i’r ffurflen hon weithio. Darllenwch am y cwcis rydym yn eu defnyddio.
Am faint o amser rydym yn cadw’ch data
Byddwn ond yn cadw eich data personol am gyn hired ag:
- mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni
- rydym ei angen at y dibenion a restrir uchod
Mae hyn yn golygu mai dim ond am flwyddyn y byddwn yn cadw eich data personol.
Lle mae eich data yn cael ei brosesu a’i gadw
Efallai y bydd eich data personol yn cael ei drosglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig wrth gael ei brosesu gan GDS. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael yr un lefel o amddiffyniad technegol a chyfreithiol ag yr ydych yn y Deyrnas Unedig drwy ddibynnu ar benderfyniadau digonolrwydd data Llywodraeth y DU neu drwy gynnwys cymalau mewn contractau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddiogelu’r data yn unol â safonau’r DU.
Sut rydym yn diogelu eich data a’i gadw’n ddiogel
Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i gadw’ch data yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgelu anawdurdodedig, rydym wedi rhoi gweithdrefnau technegol a sefydliadol ar waith i ddiogelu’r data rydym yn ei gasglu amdanoch chi – er enghraifft, rydym yn diogelu’ch data gan ddefnyddio lefelau amrywiol o amgryptio. Rydym hefyd yn sicrhau bod gan unrhyw drydydd partïon rydym yn delio â nhw rwymedigaeth i gadw’r holl ddata personol y maent yn ei brosesu ar ein rhan yn ddiogel.
Beth yw eich hawliau
Mae gennych yr hawl i ofyn am:
- wybodaeth am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu
- copi o’r data personol hwnnw - bydd y copi hwn yn cael ei ddarparu mewn ffurf strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac y gellir ei ddarllen gan beiriant
- bod unrhyw beth anghywir yn eich data personol yn cael ei gywiro ar unwaith
Gallwch hefyd:
- godi gwrthwynebiad am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu
- gofyn i’ch data personol gael ei ddileu os nad oes cyfiawnhad amdano mwyach
- gofyn i brosesu eich data personol gael ei gyfyngu mewn amgylchiadau penodol
Os oes gennych unrhyw un o’r ceisiadau hyn, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data - gallwch ddod o hyd i’w manylion cyswllt isod.
Newidiadau i’r hysbysiad hwn
Gallwn addasu neu ddiwygio’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ôl ein disgresiwn ar unrhyw adeg. Pan fyddwn yn gwneud newidiadau i’r hysbysiad hwn, byddwn yn diwygio’r dyddiad addasu diwethaf ar frig y dudalen hon. Bydd unrhyw addasiad neu ddiwygiad i’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cael ei gymhwyso i chi a’ch data ar y dyddiad adolygu hwnnw. Rydym yn eich annog i adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd i gael gwybod am sut rydym yn diogelu’ch data.
Cwestiynau a chwynion
Cysylltwch â gds-privacy-office@digital.cabinet-office.gov.uk os ydych naill ai:
- gyda chwestiynau am unrhyw beth yn y ddogfen hon
- yn meddwl bod eich data personol wedi cael ei gamddefnyddio neu ei gam-drin
Gallwch hefyd gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data.
dataprotection@dsit.gov.uk
DSIT Data Protection Officer
Department for Science, Innovation and Technology
22-26 Whitehall
London SW1A 2EG
Os oes gennych gŵyn, gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Mae’r ICO yn rheoleiddiwr annibynnol a sefydlwyd i gynnal hawliau gwybodaeth.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
icocasework@ico.org.uk
0303 123 1113
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF