Hoffem ddefnyddio cwcis dadansoddeg fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio’r wefan hon a gwneud gwelliannau.
Ein cyngor i fusnesau bwyd sy’n darparu bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw yw bod gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau, wedi’i hategu gan sgwrs, yn gweithio orau i ddefnyddwyr.
Dylai gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau fod ar gael yn rhwydd, lle bo’n bosib, heb i ddefnyddwyr orfod gofyn amdani. Gallai hyn gynnwys rhoi’r wybodaeth ar y brif fwydlen, fel llyfryn alergenau ar gownter, neu fatrics wedi’i arddangos ar wal mewn lleoliad hygyrch i ddefnyddwyr.
Bydd ein canllawiau arferion gorau (agor mewn tab newydd) ac offer i’w lawrlwytho (agor mewn tab newydd) yn eich helpu i ddarparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw i ddefnyddwyr yn effeithiol.
hypersensitivitypolicy@food.gov.uk