Neidio i’r prif gynnwys

Gwneud achos dros beidio â ffeilio datganiad gwiriad hunaniaeth

Mae gwneud achos yn golygu dweud wrthym am amgylchiadau eithriadol rydych chi am i ni eu hystyried cyn i ni gymryd camau gorfodi ar gyfer ffeilio’n hwyr.

Gallwch ond ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud achos dros beidio â ffeilio:

  • datganiad cadarnhau a datganiadau gwiriad hunaniaeth cyfarwyddwyr
  • datganiad gwiriad hunaniaeth ar gyfer person sydd â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)

Os derbynnir eich achos, byddwn yn oedi cymryd camau gorfodi er mwyn rhoi amser i chi ffeilio.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch Dull Tŷ’r Cwmnïau at beidio â chydymffurfio â gwiriad hunaniaeth gorfodol (agor mewn tab newydd).

Pryd i wneud achos

Dylech ond wneud achos ar ôl i chi gael llythyr sy’n eich hysbysu eich bod yn hwyr yn ffeilio (a elwir hefyd yn 'llythyr diofyn')

Rhaid i chi wneud yr achos o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y llythyr hwnnw.

Os byddwch yn gwneud yr achos yn rhy gynnar neu’n rhy hwyr, bydd yn cael ei wrthod.

Datganiadau gwiriad hunaniaeth ar gyfer PRhA

Os yw PRhA wedi cwblhau gwiriad hunaniaeth ac wedi derbyn cod personol Tŷ'r Cwmnïau, gallant fwrw ymlaen a chwblhau gofynion gwiriad hunaniaeth (agor mewn tab newydd). Ni ddylai fod angen iddynt wneud achos oni bai eu bod yn methu gwneud hyn.

Beth fydd ei angen arnoch

I gwblhau’r ffurflen hon, bydd angen i chi roi:

  • eich enw llawn a’ch cyfeiriad e- bost
  • enw’r cwmni
  • rhif y cwmni
  • dyddiad eich llythyr diofyn, os oes gennych
  • gwybodaeth am yr amgylchiad eithriadol

Gallwch hefyd lanlwytho hyd at 2 ddarn o dystiolaeth i gefnogi eich cais. Gall darparu tystiolaeth ein helpu i brosesu eich achos yn gyflymach.

Nodwch eich enw, fel y person sy’n cyflwyno’r achos hwn
Cael help gyda’r ffurflen hon

Ffôn

Rhif ffôn a’r amseroedd agor
0303 1234 500 Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30yb i 6yh

Darganfyddwch am gostau galwadau (agor mewn tab newydd)