Hoffem ddefnyddio cwcis dadansoddeg fel y gallwn ddeall sut rydych yn defnyddio’r wefan hon a gwneud gwelliannau.
Dylech ond ddefnyddio’r ffurflen hon os ydych yn barod wedi cael dau estyniad gan ddefnyddio’r gwasanaeth Darparu manylion gwiriad hunaniaeth ar gyfer person â rheolaeth arwyddocaol (agor mewn tab newydd)
Rhaid i chi gyflwyno eich cais cyn i’ch dyddiad cau ar gyfer cwblhau gwiriad hunaniaeth fynd heibio.
Os ydych yn PRhA ar gyfer mwy nag un cwmni, bydd angen i chi gyflwyno ceisiadau ar wahân ar gyfer pobl rôl PRhA.
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon os ydych yn PRha, neu’n ffeilio ar ran un.
Er mwyn cwblhau’r ffurflen hon, bydd angen i chi roi’r canlynol:
eich enw llawn, fel y mae’n ymddangos ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau
rhif y cwmni rydych chi’n PRhA iddo
rheswm dros wneud cais am estyniad
tystiolaeth ategol
Rhaid i chi lanlwytho tystiolaeth atodol, neu caiff eich cais ei wrthod. Gallwch lanlwytho uchafswm o 2 ddogfen.
Mae’r dystiolaeth sydd angen i chi ei darparu yn dibynnu ar y rheswm dros y cais am estyniad. Mae’r canllawiau canlynol yn nodi enghreifftiau o dystiolaeth y gallwch chi ei lanlwytho.
Dogfen neu sgrinlun sy’n dangos eich bod wedi gwneud cais am ddogfennau hunaniaeth. Rhaid iddo ddangos amser a dyddiad. Er enghraifft, mae’n rhaid i gadarnhad e-bost o gais am basbort ddangos yr amser a’r dyddiad y daeth yr e-bost i law.
Tystiolaeth eich bod wedi defnyddio’r gwasanaeth GOV.UK One Login i drefnu cwblhau gwiriad hunaniaeth yn Swyddfa’r Post. Er enghraifft, yr e-bost cadarnhau neu lythyr cwsmer Swyddfa’r Post a gafoch gan GOV.UK One Login. Rhaid iddo ddangos y dyddiad yr anfonwyd y llythyr atoch chi.
Dogfen gan weithiwr meddygol proffesiynol cydnabyddedig, fel meddyg teulu neu ysbyty, sy’n cadarnhau eich triniaeth feddygol. Rhaid i’r ddogfen gynnwys pennawd llythyr swyddogol neu stamp gwiriadwy.
Dogfen yn cadarnhau’r rheswm pam mae angen cymorth ychwanegol arnoch. Gall hyn fod yn gopi o e-bost, llythyr neu adroddiad. Rhaid i’r ddogfen fod gan weithiwr proffesiynol addysgol, seicolegydd addysg, gweithiwr proffesiynol meddygol, therapydd galwedigaethol neu gynnyrch sgrinio ar-lein.
E-bost neu sgrinlun gan ddarparwr gwasanaeth yn nodi’r gwall technegol a’r dyddiad ac amser y digwyddodd.
Dogfen neu sgrinlun sy’n dangos bod eich bod wedi ffeilio cywiriadau. Gall hyn gynnwys copi o’r ffurflen, neu rywbeth sy’n dangos y rhif cyfeirnod ar gyfer y ffeilio.
Byddwn yn adolygu’r dystiolaeth ac yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi a yw eich cais wedi’i dderbyn neu ei wrthod. Mae’r penderfyniad hwn yn ôl disgresiwn y cofrestrydd.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Dull Tŷ’r Cwmnïau tuag at beidio â chydymffurfio â chwblhau gwiriad hunaniaeth gorfodol (agor mewn tab newydd).
Os derbynnir eich cais, bydd gennych 14 diwrnod ychwanegol i ddarparu eich manylion gwiriad hunaniaeth, gan ddechrau o ddiwedd eich cyfnod 14 diwrnod cyfredol.
enquiries@companieshouse.gov.uk
0303 1234 500 Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8:30am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau