Neidio i’r prif gynnwys

Gwneud cais am estyniad i'r dyddiad cau o ran gwiriad hunaniaeth ar gyfer PRhA

Dylech ond ddefnyddio’r ffurflen hon os ydych yn barod wedi cael dau estyniad gan ddefnyddio’r gwasanaeth Darparu manylion gwiriad hunaniaeth ar gyfer person â rheolaeth arwyddocaol (agor mewn tab newydd)

Rhaid i chi gyflwyno eich cais cyn i’ch dyddiad cau ar gyfer cwblhau gwiriad hunaniaeth fynd heibio.

Os ydych yn PRhA ar gyfer mwy nag un cwmni, bydd angen i chi gyflwyno ceisiadau ar wahân ar gyfer pobl rôl PRhA.

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon os ydych yn PRha, neu’n ffeilio ar ran un.

Beth fydd ei angen arnoch

Er mwyn cwblhau’r ffurflen hon, bydd angen i chi roi’r canlynol:

  • eich enw llawn, fel y mae’n ymddangos ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau

  • rhif y cwmni rydych chi’n PRhA iddo

  • rheswm dros wneud cais am estyniad

  • tystiolaeth ategol

Tystiolaeth ategol

Rhaid i chi lanlwytho tystiolaeth atodol, neu caiff eich cais ei wrthod. Gallwch lanlwytho uchafswm o 2 ddogfen.

Mae’r dystiolaeth sydd angen i chi ei darparu yn dibynnu ar y rheswm dros y cais am estyniad. Mae’r canllawiau canlynol yn nodi enghreifftiau o dystiolaeth y gallwch chi ei lanlwytho.  

Os ydych wedi gwneud cais am y dogfennau hunaniaeth sydd eu hangen ar gyfer cwblhau gwiriad hunaniaeth, ond nad ydyn nhw wedi cyrraedd eto

Dogfen neu sgrinlun sy’n dangos eich bod wedi gwneud cais am ddogfennau hunaniaeth. Rhaid iddo ddangos amser a dyddiad. Er enghraifft, mae’n rhaid i gadarnhad e-bost o gais am basbort ddangos yr amser a’r dyddiad y daeth yr e-bost i law.

Os ydych wedi trefnu i gwblhau gwiriad hunaniaeth yn Swyddfa’r Post

Tystiolaeth eich bod wedi defnyddio’r gwasanaeth GOV.UK One Login i drefnu cwblhau gwiriad hunaniaeth yn Swyddfa’r Post. Er enghraifft, yr e-bost cadarnhau neu lythyr cwsmer Swyddfa’r Post a gafoch gan GOV.UK One Login. Rhaid iddo ddangos y dyddiad yr anfonwyd y llythyr atoch chi.

Os ydych yn cael triniaeth feddygol sy’n golygu nad ydych yn gallu cwblhau gwiriad hunaniaeth ar amser

Dogfen gan weithiwr meddygol proffesiynol cydnabyddedig, fel meddyg teulu neu ysbyty, sy’n cadarnhau eich triniaeth feddygol. Rhaid i’r ddogfen gynnwys pennawd llythyr swyddogol neu stamp gwiriadwy.

Os nad ydych yn gallu cwblhau gwiriad hunaniaeth heb gymorth, a’ch bod â threfniant cymorth ychwanegol

Dogfen yn cadarnhau’r rheswm pam mae angen cymorth ychwanegol arnoch. Gall hyn fod yn gopi o e-bost, llythyr neu adroddiad. Rhaid i’r ddogfen fod gan weithiwr proffesiynol addysgol, seicolegydd addysg, gweithiwr proffesiynol meddygol, therapydd galwedigaethol neu gynnyrch sgrinio ar-lein.

Os ydych yn profi problemau technegol am gyfnod hir o amser, sy’n golygu nad ydych yn gallu cwblhau gwiriad hunaniaeth ar amser

E-bost neu sgrinlun gan ddarparwr gwasanaeth yn nodi’r gwall technegol a’r dyddiad ac amser y digwyddodd.

Os yw manylion eich PRhA ar gofnod y cwmni yn anghywir, a’ch bod angen mwy o amser i ffeilio cywiriad

Dogfen neu sgrinlun sy’n dangos bod eich bod wedi ffeilio cywiriadau. Gall hyn gynnwys copi o’r ffurflen, neu rywbeth sy’n dangos y rhif cyfeirnod ar gyfer y ffeilio.

Ar ôl i chi gyflwyno’r cais

Byddwn yn adolygu’r dystiolaeth ac yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi a yw eich cais wedi’i dderbyn neu ei wrthod. Mae’r penderfyniad hwn yn ôl disgresiwn y cofrestrydd.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Dull Tŷ’r Cwmnïau tuag at beidio â chydymffurfio â chwblhau gwiriad hunaniaeth gorfodol (agor mewn tab newydd).

Os derbynnir eich cais, bydd gennych 14 diwrnod ychwanegol i ddarparu eich manylion gwiriad hunaniaeth, gan ddechrau o ddiwedd eich cyfnod 14 diwrnod cyfredol.

Rhowch yr enw llawn fel y mae’n ymddangos ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau.
Cael help gyda’r ffurflen hon

E-bost

enquiries@companieshouse.gov.uk

Ffôn

0303 1234 500 Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8:30am i 6pm

Darganfyddwch am gostau galwadau