Neidio i’r prif gynnwys

Datganiad hygyrchedd ar gyfer y ffurflen hon

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i ffurflenni ar-lein gydag URL sy’n dechrau gyda https://submit.forms.service.gov.uk.

Mae’r ffurflen hon yn rhan o’r wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer y brif wefan GOV.UK.

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio

  • pa mor hygyrch yw’r ffurflen
  • beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth ei ddefnyddio
  • sut i roi gwybod am unrhyw broblemau hygyrchedd
  • gwybodaeth dechnegol am broblemau hysbys - a’r gwaith rydym yn bwriadu ei wneud i ddatrys y rhain

Defnyddio’r ffurflen hon

Crëwyd y ffurflen hon gan ddefnyddio platfform o’r enw GOV.UK Forms. Mae GOV.UK Forms yn cael ei adeiladu gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS). Mae wedi’i gynllunio i greu ffurflenni y gellir eu defnyddio gan cyn gymaint o bobl â phosibl.

Dylai’r testun yn y ffurflen fod yn glir ac yn syml i’w ddeall.

Dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r ffurflen i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r ffurflen i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y ffurflen gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r ffurflen hon

Efallai na fydd rhai rhannau o’r ffurflen hon yn gwbl hygyrch.

Mae materion sy’n ymwneud â rhyngwyneb GOV.UK Forms wedi’u rhestru yn ‘Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y ffurflen hon’ isod.

Mae’r cwestiynau yn y ffurflen yn cael eu hysgrifennu gan bobl yn adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth. Mae pob adran ac asiantaeth sy’n cyhoeddi cynnwys ar GOV.UK yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn bodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, efallai na fydd y testun a ddefnyddir yn y ffurflen yn iaith plaen ac efallai na fydd y strwythur yn gwbl hygyrch.

Er mwyn annog cynnwys hygyrch, rydym yn darparu canllawiau o fewn platfform GOV.UK Forms. Rydym hefyd yn defnyddio adborth a dadansoddeg i nodi problemau hygyrchedd.

Beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth defnyddio’r ffurflen hon

Os ydych yn cael trafferth defnyddio’r ffurflen hon neu os ydych angen y ffurflen mewn ffurf gwahanol, anfonwch e-bost at govuk-forms@digital.cabinet-office.gov.uk – dylech gynnwys enw’r ffurflen yn eich e-bost.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd ffurflenni a gynhyrchir gyda GOV.UK Forms.

Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau, neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch e-bost atom yn govuk-forms@digital.cabinet-office.gov.uk.

Os nad ydych yn hapus â’n hymateb

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb, sy’n cael ei redeg ar ran EHRC.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y ffurflen hon

Mae GDS wedi ymrwymo i wneud y ffurflen hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r ffurflen hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Efallai y gofynnir i chi am yr un wybodaeth bersonol fwy nag unwaith. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf WCAG 2.2 3.3.7 (cofnod diangen).

Problemau eraill wrth ddefnyddio’r rhyngwyneb

Er nad yw’r materion canlynol yn methu WCAG 2.2 AA, rydym yn bwriadu ymchwilio iddynt a’u cywiro cyn gynted â phosibl.

  1. Nid yw’r crynodeb gwall e-bost cadarnhau ar y dudalen ‘Edrychwch dros eich atebion’ yn cysylltu â’r maes penodol sydd gyda’r gwall. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach llywio o fewn y dudalen ac i ddeall sut i ddatrys y broblem.
  2. Pan fydd gwall dilysu ar y dudalen ‘Edrychwch dros eich atebion’, nid yw teitl y dudalen yn newid i gynnwys y gair ‘Gwall’ ar y dechrau. Os ydych yn defnyddio darllenydd sgrin mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach deall eich bod ar dudalen gwall pan fydd y dudalen yn adnewyddu.
  3. Pan fyddwch yn clicio ar ‘Cael help gyda’r ffurflen hon’, mae’r penawdau dull cyswllt yn H3s, ond nid oes H2. Gall hepgor lefelau pennawd fod yn ddryslyd os ydych yn defnyddio darllenydd sgrin ac nid yw’n arfer gorau.
  4. Ar dudalennau cwestiynau, mae’r ddolen yn ôl yn diflannu pan fydd gwall yn bresennol. Gallai hyn ei gwneud hi’n anoddach llywio allan o dudalennau pan fyddwch wedi gwneud camgymeriad.
  5. Lle mae opsiwn i ychwanegu teitl rhywun ar gwestiynau enw, nid yw’r mewnbwn teitl wedi’i farcio fel dewisol. Gallai hyn achosi i chi lenwi’r maes yma pan nad ydych eisiau neu nad oes angen.
  6. Mae VoiceOver ar iOS (System Weithredu iPhone) 17 yn darllen rhai llinellau o gynnwys ddwywaith. Mae hyn yn digwydd gyda:
    • chanllawiau a ddarperir cyn cwestiwn
    • cynnwys rhestr crynodeb ar y dudalen ‘Edrychwch dros eich atebion’
    • peth o’r cynnwys ar y dudalen sy’n cadarnhau bod eich ffurflen wedi’i chyflwyno
    • rhai penawdau ar dudalennau cwestiynau sydd â sawl maes
  7. Pan fyddwch yn clicio ar ‘Cael help gyda’r ffurflen hon’, nid yw VoiceOver ar iOS 17 yn cyhoeddi bod mwy o gynnwys i’w ddangos. Gallai hyn ei gwneud hi’n anoddach cael help gyda’r ffurflen.
  8. Ar y dudalen ‘Edrychwch dros eich atebion’, nid yw VoiceOver ar iOS 17 bob amser yn darllen y ddolen ‘Newid’. Gallai hyn ei gwneud hi’n anoddach i chi newid eich ateb.
  9. Gall fod yn anodd agor y ddolen ‘Cael help gyda’r ffurflen hon’ wrth ddefnyddio estyniad gwe Dragon ar Chrome. Gallai hyn ei gwneud hi’n anoddach cael help gyda’r ffurflen.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 20 Chwefror 2024. Fe'i hadolygwyd a'i ddiweddaru ddiwethaf ar 19 Awst 2025.

Profwyd ffurflenni a grëwyd gan ddefnyddio platfform GOV.UK Forms ddiwethaf ar 9 Ionawr 2024. Cynhaliwyd y prawf gan GDS.

Asesodd GDS y ffurflenni yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We WCAG 2.2.